Gweledigaethau y Bardd Cwsg Gweledigaethau y Bardd Cwsg

Gweledigaethau y Bardd Cwsg

    • CHF 5.00
    • CHF 5.00

Description de l’éditeur

Roedd Ellis Wynne, 1671-1734, yn reithor, yn fardd, yn gyfieithydd ac yn frenhinwr ond mae’n fwy adnabyddus fel awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsg a gyhoeddwyd gyntaf ym 1703. 

Caiff y Bardd Cwsg ei arwain drwy dair weledigaeth lle mae’n dilyn taith pechaduriaid ar eu ffordd i uffern. Mae yma ddychymyg gwreiddiol a dychan brathog ac mae wedi ei ysgrifennu mewn iaith sy’n gwbl naturiol ac yn adlewyrchu iaith lafar Meirionnydd ar droad y 18fed ganrif.

Mae’r gyfrol hon yn cynnwys tri llyfr, yn ogystal â Gweledigaethau y Bardd Cwsg a olygwyd gan D. Silvan Evans mae dau gyfieithiad Saesneg, The Visions of the Sleeping Bard gan Gwyneddon Davies a The Sleeping Bard gan George Borrow.

Yn ei gyflwyniad mae Gwyneddon Davies yn gresynu fod Ellis Wynne wedi defnyddio arddull a geiriau amrwd iawn ar adegau ac felly mae wedi eu hepgor! –

‘Many passages which might be considered coarse and indecorous according to modern canons of taste, have been omitted from this translation’.

Cyfrol George Borrow oedd y cyfieithiad cyntaf i’w gyhoeddi, mae D. Silvan Evans yn cyfaddef ei fod yn gyfieithiad gweddol dda er fod Borrow wedi camddeall yr awdur yn llwyr mewn rhai mannau. Mae Gwyneddon Davies hefyd yn gweld camgymeriadau yng nghyfieithiad Borrow o ran idiomau a rhagymadroddion llafar er ei fod yn cyfaddef fod yr arddull yn ‘charming and racy’.

Er fod Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn dangos dylanwad amlwg Los Sueños gan y Sbaenwr Francisco Gomez de Quevedo, mae Ellis Wynne wedi creu campwaith cwbl Gymreig sy’n ddealladwy ac yn ddarllenadwy dros dri chant mlynedd ers iddo’i ysgrifennu.

GENRE
Romans et littérature
SORTIE
2013
1 décembre
LANGUE
CY
Gallois
LONGUEUR
444
Pages
ÉDITIONS
Cromen
TAILLE
635,8
Ko

Plus de livres par Ellis Wynne

The Sleeping Bard The Sleeping Bard
2019
The Sleeping Bard The Sleeping Bard
2015
The Sleeping Bard The Sleeping Bard
2015
The Visions of the Sleeping Bard The Visions of the Sleeping Bard
2015
The Visions of the Sleeping Bard The Visions of the Sleeping Bard
2013
Works of Ellis Wynne Works of Ellis Wynne
2013