Scorch: Rhyddhaur Ddraig
Rhyddhaur Ddraig
Beschreibung des Verlags
Dysgwch mwy am Scorch, masgot newydd URC, trwy ddilyn stori Rhys, Megan a Dylan wrth iddyn nhw fynd ar daith o amgylch Stadiwm y Mileniwm – taith oedd yn llawn troeon trwstan.
Wrth ymweld ag ystafell newid Cymru mae Rhys, Megan a Dylan ac yn cael eu tywys yn ôl trwy’r oesoedd a fu. Fe ddaw hi’n amlwg ymhen dim mai Merlin sydd yn gyfrifol am drefnu’r daith hud. Mae Merlin yn gwirioni ar rygbi. Mae o’n defnyddio ei bwerau hud i wylio gemau Cymru y dyfodol yn ei grochan. Mae Merlin wrth ei fodd bod Cymru wedi cipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r Gamp Lawn yn 2012 ar Bencampwriaeth eto yn 2013, ond mae o’n awyddus i weld Cymru yn camu i’r lefel nesaf a dominyddu’r byd! Mae Merlin yn egluro bod yn rhaid i’r plant ‘ryddhau’r ddraig’ er mwyn rhoi y tân a phenderfyniad ychwanegol i alluogi tîm Cymru i herio’r byd.
Mae’r plant yn wynebu sawl sialens a nifer o anturiaethau ar eu taith hud, gan gynnwys yr her o geisio rhyddhau’r cleddyf o’r garreg, darganfod pwy oedd yn gyfrifol am gyfansoddi’r anthem genedlaethol, dod a hyd a helpu deor wy y ddraig o ddyfnderoedd pwll glo y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn iddyn nhw ddychwelyd i’r presennol i dderbyn y cliw olaf er mwyn cael Rhyddhau’r Ddraig!