Castell Caerfyrddin Castell Caerfyrddin

Castell Caerfyrddin

Olrhain Hanes Llywodraethiant

    • 14,99 €
    • 14,99 €

Beschreibung des Verlags

Castell Caerfyrddin oedd un o’r cestyll mwyaf yng Nghymru’r Oesoedd Canol, yn ogytal ag un o’r pwysicaf oherwydd ei swyddogaeth fel canolfan llywodraeth ac fel eiddo’r Goron mewn ardal o diroedd Cymreig ac arglwyddiaethau’r Mers. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o’r castell yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cyn ei ailddatblygu yn gyntaf fel carchar ac yna’n bencadlys i’r awdurdod lleol. Eto, mae’r adfeilion a’u lleoliad yn hynod drawiadol. Rhwng 1993 a 2006, bwriwyd ati gyda rhaglen sylweddol o waith archeolegol ac ymchwil, gwaith a ddisgrifir mewn manylder yn y llyfr hwn. Archwilir hanes y castell yn ogystal, ynghyd â’i effaith ar yr ardal ac ar Gymru gyfan. Cawn ddarlun o swyddogion a thrigolion y castell, eu gweithgareddau, a’u hymadwaith gyda’r amgylchfyd. Disgrifir y cloddfeydd yn y castell a’r creiriau a ganfyddwyd, ynghyd â’r potensial archeolegol sy’n parhau. Mae’r llyfr hwn yn gosod Castell Caerfyrddin ym myw hanes Cymru’r Oesoedd Canol, gan roi iddo’i briod le ym maes ehangach astudiaethau cestyll a hanes pensaernïol, i gyflwyno astudiaeth sy’n gyfraniad sylweddol i hanes un o drefi mawr Cymru.

GENRE
Geschichte
ERSCHIENEN
2014
10. Juni
SPRACHE
CY
Kymrisch
UMFANG
475
Seiten
VERLAG
University of Wales Press
ANBIETERINFO
Lightning Source Inc Ingram DV LLC
GRÖSSE
34
 MB