Teulu Bach Nantoer
Chwedl i blant
-
- £2.99
-
- £2.99
Publisher Description
Yn ddiymhongar ddigon y cyflwynodd Lizzie Mary Owen, 1877–1953, ei ‘llyfr bychan’, Teulu Bach Nantoer, i blant Cymru ganrif yn ôl, ‘gan hyderu y cânt ynddo fwynhad, a rhyw gymaint o symbyliad i garu â chariad mawr eu hiaith, eu gwlad, a’u cenedl’.
Dyma nofel fechan swynol a dirdynnol sy’n werth ei darllen o hyd. At hynny, mae’n rhan hanfodol o hanes datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru, a thrwy archwilio’r modd y mae Moelona yn cyfathrebu â’i chynulleidfa ifanc gallwn ddeall cryn dipyn am feddylfryd Cymry ddechrau’r ugeinfed ganrif. Efallai fod Teulu Bach Nantoer yn ymddangos yn stori syml, ond y mae wedi ei llwytho â gobeithion a phryderon Cymry’r cyfnod am eu hiaith, eu cymuned a’u diwylliant.
Mae’r teulu bach, megis Cymru, mewn sefyllfa fregus yn sgil y bygythiadau allanol a’u hamgylchiadau tlodaidd. Ond trwy ddisgyblaeth, addysg a theyrngarwch i deulu, cymuned a gwlad, mae’r nofel yn dangos sut y gellir trawsnewid tynged y plant, ac felly’r genedl.
Yn sgil y newidiadau cymdeithasol mawr yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, tyfodd darlun rhamantaidd Moelona o fywyd teuluol yn fwyfwy amherthnasol a sentimental, a chollodd y nofel ei hapêl gynnar. Mae perygl heddiw inni anghofio’n llwyr am y teulu bychan ym mwthyn Nantoer. Os digwydd hynny, byddwn ar ein colled oherwydd gall y nofel fechan hon gyflwyno darllenwyr, ifanc a hen, i fyd a meddylfryd Cymry troad yr ugeinfed ganrif.
Ydy, mae hon yn nofel ddiniwed sy’n perthyn i gyfnod a fu – ac mae hynny’n rheswm dros ei darllen yn hytrach na’i hanwybyddu. Gyda’r fersiwn arloesol hwn, dathlwn un o drysorau llenyddiaeth plant y Gymraeg a rhoi’r cyfle i Teulu Bach Nantoer adael ei hargraff ar lechen ddigidol ein hoes ni.