Scorch: Rhyddhaur Ddraig Scorch: Rhyddhaur Ddraig

Scorch: Rhyddhaur Ddraig

Rhyddhaur Ddraig

Utgivarens beskrivning

Dysgwch mwy am Scorch, masgot newydd URC, trwy ddilyn stori Rhys, Megan a Dylan wrth iddyn nhw fynd ar daith o amgylch Stadiwm y Mileniwm – taith oedd yn llawn troeon trwstan.

 

Wrth ymweld ag ystafell newid Cymru mae Rhys, Megan a Dylan ac yn cael eu tywys yn ôl trwy’r oesoedd a fu. Fe ddaw hi’n amlwg ymhen dim mai Merlin sydd yn gyfrifol am drefnu’r daith hud.  Mae Merlin yn gwirioni ar rygbi. Mae o’n defnyddio ei bwerau hud i wylio gemau Cymru y dyfodol yn ei grochan. Mae Merlin wrth ei fodd bod Cymru wedi cipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r Gamp Lawn yn 2012 ar Bencampwriaeth eto yn 2013, ond mae o’n awyddus i weld Cymru yn camu i’r lefel nesaf a dominyddu’r byd! Mae Merlin yn egluro bod yn rhaid i’r plant ‘ryddhau’r ddraig’ er mwyn rhoi y tân a phenderfyniad ychwanegol i alluogi tîm Cymru i herio’r byd.

 

Mae’r plant yn wynebu sawl sialens a nifer o anturiaethau ar eu taith hud, gan gynnwys yr her o geisio rhyddhau’r cleddyf o’r garreg, darganfod pwy oedd yn gyfrifol am gyfansoddi’r anthem genedlaethol, dod a hyd a helpu deor wy y ddraig o ddyfnderoedd pwll glo y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn iddyn nhw ddychwelyd i’r presennol i dderbyn y cliw olaf er mwyn cael Rhyddhau’r Ddraig!

GENRE
Serier och grafiska romaner
UTGIVEN
2013
15 augusti
SPRÅK
CY
Walesiska
LÄNGD
52
Sidor
UTGIVARE
Welsh Rugby Union
STORLEK
17,6
MB

Fler böcker av Brent Dawes & Willem Samuel