Profedigaethau Enoc Huws
-
- $10.99
-
- $10.99
Publisher Description
(New edition of Daniel Owen's classic novel of deception and hypocrisy)
"Yr hyn a elwid o'r blaen yn bechodau yn Richard, nid oeddynt ond gwendidau yn Capten Trefor... gwendidau naturiol, gwendidau hawdd iawn, erbyn hyn, rhoddi cyfrif amdanynt, a'u hesgusodi mewn gŵr yn ei sefyllfa ef. Yr oedd Capten Trefor yn well dyn o lawer nag yr oeddid wedi arfer syniad amdano, ac, yn sicr, yr oedd efe yn fendith i'r gymdogaeth."
Er gwaetha'i wedd barchus, mae lwc Capten Richard Trefor yn dirwyn i ben, a'i ddyledion yn tyfu. Ei unig obaith yw cychwyn menter newydd, a chael hyd i rywrai sy'n ddigon cyfoethog - ac yn ddigon diniwed - i fuddsoddi ynddi. Tybed a fydd y siopwr parchus a chefnog Enoc Huws yn gwneud y tro? Ag yntau dros ei ben a'i glustiau mewn cariad gyda Susi, merch y Capten, beth fydd yn darfod gyntaf - cyfoeth Enoc, amynedd Susi, neu ddrygioni Catpen Trefor?
Daniel Owen (1836-1895) oedd nofelydd mawr gyntaf yr iaith Gymraeg, ac Enoc Huws yw ei gampwaith mwyaf ac un o uchafbwyntiau cydnabyddedig llenyddiaeth Gymraeg oes Fictoria. Comedi cymdeithasol, mae ei hiwmor a'i ffraethineb wedi'u plethu'n feistrolgar â sylwebaeth graff am ragrith sy'n parhau mor berthnasol ag erioed.