Y Peiriant Amser (eLyfr) Y Peiriant Amser (eLyfr)

Y Peiriant Amser (eLyfr‪)‬

    • $5.99
    • $5.99

Publisher Description

(eBook of the Welsh Translation of H. G. Wells The Time Machine)

Cydnabyddir H.G. Wells fel un o brif ffigyrau cynnar ffuglen wyddonol, mewn unrhyw iaith. Ysgrifennodd dros bum deg o nofelau ac chyfrir y enwocafohonynt, gan gynnwys The Time Machine, The Island of Doctor Moreau, The Invisible Man, The War of the Worlds ac When the Sleeper Wakes, ymhlith y straeon mwyaf enwog a phoblogaidd erioed. Cafodd ei enwebu bedwar gwaith ar gyfer wobr Nobel mewn llenyddiaeth.

"Eiliad yn ddiweddarach roedden ni'n dau'n wynebu ein gilydd, minnau a'r creadur bregus hwn o'r dyfodol. Daeth yn syth ataf i, a chwarddodd yn uchel yn fy wyneb. Fe'm trawyd ar unwaith gan y ffaith nad oedd awgrym o ofn ynddo o gwbl."

Un noswaith yn Llundain tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae gŵr ffraeth a hyddysg yn estyn gwahoddiad i grŵp o'i gyfoedion fod yn dyst wrth iddo arddangos ei ddyfais anhygoel newydd: y Peiriant Amser. Gyda hwn, mae'n teithio cannoedd o filoedd o flynyddoedd i'r dyfodol ac yn cael ei hun mewn paradwys, o'r golwg. Ond pam felly bod popeth i'w weld mewn adfeilion? A beth sy'n llechu dan wyneb y byd rhyfedd 

newydd hwn?   

Nofel gyntaf Herbert George Wells, heb os, yw un o'r portreadau enwocaf o'r dyfodol mewn ffuglen, ac hyd heddiw, mae'n un o'r 

rhai mwyaf arswydus. Y cyfieithiad newydd hwn yw'r tro cyntaf i waith Wells fod ar gael yn y Gymraeg. Cyhoeddwyd Y Peiriant Amser yn 1895 a hi oedd ei nofel gyntaf. Er nad hon oedd y nofel gyntaf i archwilio'r cysyniad o deithio mewn amser, hon sefydlodd y syniad o 'beiriant amser' yn y ddychymyg boblogaidd. Heb os, bu'n dylanwad ar Islwyn Ffowc Elis pan ysgrifennodd yntau Wythnos yng Nghymru Fydd, y nofel Cymraeg enwocaf am deithio mewn amser.

(English Description)

This new edition of H. G. Wells Science Fiction classic The Time Machine is the first time any of Wells' books have been made available in Welsh.

GENRE
Fiction & Literature
RELEASED
2024
April 1
LANGUAGE
CY
Welsh
LENGTH
6
Pages
PUBLISHER
Melin Bapur
SELLER
Ingram DV LLC
SIZE
5.4
MB
The Time Machine The Time Machine
2011
The War of the Worlds The War of the Worlds
2012
The Invisible Man The Invisible Man
1897
The Time Machine The Time Machine
1946
The World Set Free The World Set Free
1914
The Island of Doctor Moreau The Island of Doctor Moreau
1946