Yr Emynau a'r Llythyrau Yr Emynau a'r Llythyrau

Yr Emynau a'r Llythyrau

    • Pre-Order
    • Expected Nov 30, 2026
    • $6.99
    • Pre-Order
    • $6.99

Publisher Description

(Argraffiad newydd o waith Ann Griffiths yn cynnwys ei hemynau, ei llythyrau, a gweithiau gan ei chydnabod)

Bererin llesg gan rym y 'stormydd,

Cwyd dy olwg, gwêl 'n awr,

Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol,

Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr;

Gwregys euraidd o ffyddlondeb,

Wrth ei odrau clychau'n llawn

O sŵn maddeuant i bechadur

Ar gyfri'r anfeidrol iawn.

Er iddi farw yn 29 oed gan adael dim ond rhyw saith deg o benillion o farddoniaeth, mae Ann Griffiths (1776-1805) fardd crefyddol o bwys Ewropeaidd. Yn llais unigryw mewn emynyddiaeth Gymraeg, mae ei phenillion wedi'u nodweddu gan eu grym emosiynol ac am ddwyster eu cyfeiriadaeth ysgrythurol, sy'n tystio i feddwl chwim eu hawdures.

Mae'r gyfrol hon yn ail-greu Gwaith Ann Griffiths (1905) O. M. Edwards, sef y fersiwn safonol cyntaf o emynau'r bardd. Mae'n cynnwys llythyrau Ann yn ogystal ag emynau Thomas Griffiths, gŵr Ann, a phenillion gan un o'u cydnabod, John Davies. Gyda rhagymadrodd newydd gan Robert Rhys.

GENRE
Fiction & Literature
AVAILABLE
2026
November 30
LANGUAGE
CY
Welsh
LENGTH
88
Pages
PUBLISHER
Melin Bapur
SELLER
Ingram DV LLC
SIZE
565.2
KB
The Hymns of Ann Griffiths, of Dolwar Fechan, Translated into English Verse The Hymns of Ann Griffiths, of Dolwar Fechan, Translated into English Verse
2025
The Hymns of Ann Griffiths The Hymns of Ann Griffiths
2024
The Forum of Federations Handbook of Federal Countries 2020 The Forum of Federations Handbook of Federal Countries 2020
2020