Macbeth Giglets yn Gymraeg
Addaswyd o’r clasur gan William Shakespeare
Publisher Description
Mae Llyfrau Darllen Clyfar Giglets yn glasuron sydd weithiau’n enwog ac weithiau bron wedi’u hanghofio. Maen nhw wedi cael eu dychmygu o’r newydd a’u haddasu i gynulleidfa fodern. Er bod llenyddiaeth glasurol yn wych, yn aml iawn mae’n cuddio’r tu ôl i nifer o rwystrau. Mae darllenwyr modern yn ei chael hi’n anodd deall cyfnod storïau y byddan nhw’n eu hoffi, a hyd yn oed yn cael trafferth deall iaith a gafodd ei hysgrifennu flynyddoedd ac weithiau hyd yn oed gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae Giglets yn goresgyn nifer o’r rhwystrau hyn gan wneud i’r testunau clasurol hyn fod ar gael i gynulleidfaoedd newydd - yn blant, yn bobl ifanc yn eu harddegau ac yn oedolion fel ei gilydd.
Mae Giglets yn cyhoeddi storïau sy’n gyfoethog eu cynnwys, ond eto wedi’u byrhau o ran hyd a chymhlethdod, a’r iaith yn haws i ddarllenwyr ifanc. Nod Giglets yw gwneud i ddarllenwyr fod yn gyfarwydd â’r storïau a’r cymeriadau sy’n rhan annatod o’n diwylliant modern. Mae llyfrau Giglets yn dangos yr uchafbwyntiau, y digwyddiadau a’r hwyl, y cymeriadau gwych a’r golygfeydd gorau o storïau sydd wedi bod yn boblogaidd ers blynyddoedd.
Customer Reviews
Rhywbeth arbennig i'r dysgwyr
Syniad arbennig. Mwynheuais i bob gair. Rhagor, ogydd :-))))